Google Groups no longer supports new Usenet posts or subscriptions. Historical content remains viewable.
Dismiss

Surname "Jones"

0 views
Skip to first unread message

Robert H. Jones

unread,
Mar 28, 1996, 3:00:00 AM3/28/96
to
Has anyone heard the story about the surmane JONES. Shortly after my
grandfather slapped me in the head as a small boy for hearing me say I
was "English". He explained that i was Welsh and shouldn't ever
confuse the two at the risk of once again being slapped upside "me
head". Then he told me that King John of England enslaved many Welsh
citzins to work in his coal mines and most died. Those who survvived
were know as "John's slaves". Enetually corrupted into JONES. Anyone
know if there is ant truth to this story?


Mark

unread,
Mar 29, 1996, 3:00:00 AM3/29/96
to
In article <4jdf98$c...@tribune.concentric.net>,
HJR...@smtp.concentric.net says...
Well, being a Jones I'd certainly be interested to find out!!! :)

Mark


Geraint Jones

unread,
Apr 1, 1996, 3:00:00 AM4/1/96
to
Dafydd Price Jones <dafy...@dafyddpj.demon.co.uk> lofnododd:
)) Jones arall.

Tybed ydan ni'n perthyn, 'dwch? Rydw i'n hel acahau teulu'r
Jonesiaid oll yn ol at Adda Jones, hwnnw briododd Efa yng
ngardd Eden. Jones oedd enw teulu Cynan, y brenin Arthur,
a Llywelyn ap Gruffudd, w'ch chi.

Fydda i'n derbyn rhyw ugain neges y mis gan Jonesus o'r Amerig
yn holi a ydw i'n digwydd gwybod hanes rhyw John Jones neu'i
gilydd, un o'u hynafiaid ymfudodd o Gymru i Bensylfania bell
yn oes yr arth a'r blaidd. Rhywsut mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n
byw yn rhywle o'r enw Aol, ble bynnag mae fanno. Rhaid nad oes
yna gymin o Jonesiaid yno, neu mi fassan nhw'n nabod ei gilydd,
ond mae yna hen ddigon ohonyn nhw i mi.

Rydw i'n ystyried paratoi ateb parod, yn y modd mwyaf cadarnhaol
fedra i, rhywbeth fel "O, y John Ymfudwr Jones, yr un enwog,
hwnnw fu'n weinidog gyda'r annibynnwyr yng ngapel tanddear pwll
y twll..." ond mi fyddai'n well pe bawn ni Jonesus i gyd yn
paratoi'r un hanes, er mwyn creu rhyw rith o wiredd ar wyneb
corff y celwydd. Un ai hynny, neu holl acahu'r teulu.

Neu mi allwn i newid f'enw. Robaits, neu Defis, neu Ifans,
hwyrach. D'oes yna ddim o'r rheini yng Ngwlad yr Aol, nagoes? g

Dafydd Price Jones

unread,
Apr 1, 1996, 3:00:00 AM4/1/96
to
Mae Geraint Jones <Gerain...@wolfson.oxford.ac.uk> yn
sgrifennu

>Dafydd Price Jones <dafy...@dafyddpj.demon.co.uk> lofnododd:
>)) Jones arall.
>
>Tybed ydan ni'n perthyn, 'dwch?.

>Fydda i'n derbyn rhyw ugain neges y mis gan Jonesus o'r Amerig
>yn holi a ydw i'n digwydd gwybod hanes rhyw John Jones neu'i
>gilydd, un o'u hynafiaid ymfudodd o Gymru i Bensylfania bell
>yn oes yr arth a'r blaidd. Rhywsut mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n
>byw yn rhywle o'r enw Aol, ble bynnag mae fanno.

Mae Aol yn ffinio (h.y. On Line) efo Gwlad US, lle ganwyd yr hen
amyneddgarwr hwnnw, Job Jones - a hefyd ei grwp, Y Tri Chysurwr.

With me Sophar? Fe awn ymlaen.

>Rydw i'n ystyried paratoi ateb parod, yn y modd mwyaf cadarnhaol
>fedra i, rhywbeth fel "O, y John Ymfudwr Jones, yr un enwog, hwnnw
> fu'n weinidog gyda'r annibynnwyr yng ngapel tanddear pwll
>y twll..."

Na, 'dan ni'n drysu rwan. Daeth John Ymfudwr ("Jyj") Jones yn farnwr
enwog yng Ngwlad US.


>
> ond mi fyddai'n well pe bawn ni Jonesus i gyd yn
>paratoi'r un hanes, er mwyn creu rhyw rith o wiredd ar wyneb
>corff y celwydd.

Yn hollol, yn gymwys ac yn gwmws, ac mae hwnna'n dod yn syth o'r
galon, ac yn berffaith ddiffuant, "read my lisp". (thic).

>Neu mi allwn i newid f'enw. Robaits, neu Defis, neu Ifans,
>hwyrach. D'oes yna ddim o'r rheini yng Ngwlad yr Aol, nagoes? g

They'd hold no tryc with Ifans - sgersli bilif fydda' hi.

Yn wythnos Bob Job,
Dafydd.
--
| Dafydd Price Jones
Post-e: dafy...@dafyddpj.demon.co.uk
Good, Job. You've got BUPA.|

0 new messages