Croeso oll. Mae'n ymddangos mai hon yw'r
neges gyntaf yn y grŵp. Mae'n braf medru trafod elfennau
Cymraeg prosiectau Mozilla yn hollol agored.
Dwi am agor y trafodaethau gan awgrymu ein bod yn gwneud o
leiaf rhywfaint o ddefnydd o'r gair "lawrlwytho".
Dwi methu gweld unrhyw ddefnydd o'r gair ym mhrosiectau
Mozilla ar hyn o bryd, gyda "llwytho i lawr" yn cael ei
ddefnyddio ym mhob achos. Dwi'n deall nad yw hyn yn
anghywir, ond mae'n debyg bod defnyddio term sy'n llawer
llai cyffredin yn effeithio ar hygyrchedd y gwahanol
brosiectau.
Mae'r gair "lawrlwytho" wedi hen ennill plwyf ar hyd a lled
Cymru a thu hwnt, o'r llywodraeth (Llundain
a Chaerdydd) lawr i'r ystafelloedd dosbarth. Pan mae rhywun
yn edrych i osod Firefox maen nhw felly yn llawer mwy
tebygol o chwilio
gyda'r term "lawrlwytho
firefox" na "llwytho firefox i lawr". Ond
gan nad yw'r gair "lawrlwytho" yn ymddangos
unwaith ar wefannau prosiectau Mozilla, dyw'r tudalennau
mae pobol yn edrych
amdanynt ddim yn cael eu canfod gan beiriannau
chwilio.
Dwi'm yn gofyn am newid y cwbl lot - mae'n siŵr bod rhai yn
chwilio i "lwytho Firefox i lawr" - ond awgrymaf ein bod yn
cynnwys y gair "lawrlwytho" yma ag acw ar y wefan fel bod
cynifer â phosib o'r rhai sy'n edrych yn benodol i osod y
meddalwedd yn dod ar ei draws yn gyflym a didrafferth.
Aled