Cylchlythyr Taith Medi 2025
Croeso i rifyn mis Medi o gylchlythyr Taith. Yn y rhifyn hwn, fe welwch chi wybodaeth bwysig am ein galwad ariannu olaf ar gyfer Llwybr 2, ynghyd â mewnwelediadau allweddol o'n hadroddiad gwerthuso interim a gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar.
Cofiwch os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi eisiau dysgu mwy am Taith, mae croeso i chi gysylltu â ni ymhol...@taith.cymru.
|
|
Eich cyfle olaf i wneud cais am brosiect Llwybr 2
Pam mae’n bwysig i addysg yng Nghymru
|
|
Mae Llwybr 2 (Partneriaeth a Chydweithio Strategol) yn cynnig cyfle i sefydliadau o Gymru arwain prosiectau addysg arloesol mewn cydweithrediad â phartneriaid rhyngwladol. Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid yn mynd i'r afael â blaenoriaethau sector yng Nghymru wrth rannu arbenigedd byd-eang i gryfhau damcaniaeth ac ymarfer yn lleol ac yn genedlaethol.
Rydyn ni’n falch oherwydd inni ariannu gwaith effeithiol fel ymweliad ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned â Florida a chydweithrediad y Sefydliad Dysgu a Gwaith â phartneriaid yn Iwerddon i ddatblygu adnodd i annog mwy o oedolion i ymgysylltu â chyfleoedd dysgu cymunedol yng Nghymru.
Bydd rhaglen Taith yn dod i ben yn 2028, felly dyma'r cyfle olaf i wneud prosiect Llwybr 2. Peidiwch â cholli'r cyfle i ymgeisio. Os oes gennych chi syniad hoffech chi ei drafod, rhowch eich manylion yma a byddwn ni’n trefnu cyfarfod.
I archwilio prosiectau rydyn ni wedi ariannu’n flaenorol, ewch i'n tudalen Prosiectau a Gynlluniwyd.
Peidiwch â cholli eich cyfle olaf i wneud cais i Lwybr 2.
Mae Llwybr 2 2025 yn agor ar 18 Medi ac yn cau am 12pm ar 6 Tachwedd.
|
|
P'un ydych chi'n ystyried gwneud cais am y tro cyntaf neu ddim ond eisiau archwilio os ydy Llwybr 2 2025 yn addas ar gyfer eich prosiect, rydyn ni yma i helpu.
Isod, fe welwch chi fanylion am y gweminarau cymorth byddwn ni'n eu cynnal yn ystod yr alwad ariannu, ynghyd â dolenni i gofrestru.
Os byddai'n well gennych chi siarad â ni'n uniongyrchol, rhowch eich manylion yma a byddwn ni'n trefnu cyfarfod 1:1 ar amser sy'n gyfleus i chi.
|
|
|
Gwerthusiad annibynnol Taith: adroddiad interim
|
|
Mae gwerthusiad interim o Taith gan yr ymchwilwyr cymdeithasol ac economaidd Wavehill wedi datgelu effaith gref y rhaglen ledled Cymru, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae'r adroddiad yn dangos bod 44% o'r cyfranogwyr yn dod o'r cefndiroedd hyn—gan ragori ar y targed o 40%—gan amlygu ffocws Taith ar hygyrchedd a chynhwysiant. Mae'r rhaglen wedi ymgysylltu â 98 o wledydd ac mae'n agos at gyrraedd ei nod o 50 o bartneriaethau hirdymor, gyda 48 eisoes ar waith.
Mae'r galw am Taith wedi rhagori ar ddisgwyliadau, gyda diddordeb ac ymgysylltiad mewn cyfnewid rhyngwladol ar draws pob sector yng Nghymru yn parhau i dyfu.
Mae ysgolion wedi gweld manteision uniongyrchol. Galwodd staff yn Ysgol Pen-y-Bryn hi'n "un o'r cronfeydd gorau" maen nhw wedi'i dderbyn, tra bod athrawon yn Ysgol Gynradd Tan-y-Lan wedi tynnu sylw at ei heffaith ddiwylliannol ar ddisgyblion. Canfu'r gwerthusiad fod Taith yn cynnig gwerth da i ragorol am arian ac yn trawsnewid bywydau ledled Cymru.
|
|
|
Straeon Taith
Mae sefydliad newydd pwerus ym maes ieuenctid, Our Voice Our Journey (OVOJ), wedi lansio yng Nghymru gyda chenhadaeth feiddgar a diffuant: i roi llwyfan i leisiau ifanc a herio materion dwfn fel casineb at fenywod, trais ar sail rhywedd, ac anghydraddoldeb. Ond nid dim ond menter arall yw OVOJ, mae'n ganlyniad taith sy'n newid bywydau a sbardunodd fudiad dros newid parhaol.
Dechreuodd y syniad yn ystod cyfnewid a ariannwyd gan Taith gyda She Is Not Your Rehab, mudiad gwaelodol yn Seland Newydd sy'n helpu dynion i wella o drais a thrawma. Ym mis Hydref 2024, teithiodd wyth oedolyn ac wyth o bobl ifanc o ddau grŵp ieuenctid Cymru ar draws y byd, gan ddysgu sut y gall adrodd straeon, diwylliant, a chysylltiad sbarduno trawsnewidiad go iawn.
“Roedden ni’n gwybod na fyddai popeth yn gorffen yno,” meddai'r sylfaenydd Anne-Marie Lawrence. “Plannodd y daith honno had … roedden ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy.”
Wrth dyfu’n feunyddiol, mae OVOJ yn helpu pobl ifanc i ailddychmygu'r byd o'u cwmpas, gan roi'r offer, yr hyder, a'r dewrder iddynt i'w ailadeiladu gyda'i gilydd.
Gwyliwch eu fideo yma
|
|
Trefnwch gyfarfod ar-lein gydag aelod o dîm Taith
|
|
|
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio ar ran eich ysgol neu sefydliad ar gyfer eich prosiect Llwybr 1 neu Lwybr 2 eich hun, cliciwch y ddolen hon a rhowch eich manylion fel y gallwn gysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i gyfarfod.
|
|
Taith Newsletter September 2025
Welcome to the September edition of the Taith newsletter. In this issue, you’ll find important information about our final funding call for Pathway 2, along with key insights from our recently published interim evaluation report.
As always, if you have any questions or would like to learn more about Taith, feel free to contact us at: enqu...@taith.wales
|
|
Your final chance to apply for a Pathway 2 project
Why it matters for education in Wales
|
|
Pathway 2 (Partnership and Strategic Collaboration) offers Welsh organisations the chance to lead innovative education projects in collaboration with international partners. Funded initiatives address sector priorities in Wales while sharing global expertise to strengthen theory and practice locally and nationally.
We’re proud to have already funded impactful work like the community-focused schools visit to Florida and Learning and Work Institute’s collaboration with partners in Ireland to develop a resource to encourage more adults to engage with community learning opportunities in Wales.
The Taith programme will be ending in 2028, so this is the final opportunity to run a Pathway 2 project. Don’t miss the opportunity to apply. If you have a proposal and would like to discuss it , please fill out your details here and we’ll arrange a meeting.
To explore previously funded projects, visit our Planned Projects page.
Don’t miss your last opportunity to apply to Pathway 2.
Pathway 2 2025 opens 18 September and closes at 12pm on 6 November.
|
|
Whether you're thinking about applying for the first time or just want to explore if Pathway 2 2025 is the right fit for your project idea, we're here to help.
Below, you'll find details of the support webinars we’ll be hosting during the funding call, along with links to register.
If you’d prefer to speak with us directly, simply fill out your details here and we’ll arrange a 1:1 meeting at a time that works for you.
Applying for Taith Pathway 2 2025
This webinar will provide an overview of the Taith Pathway 2 – 2025 funding call, including:
- Who is eligible to apply
- What activities and costs are eligible
- How to prepare an application
|
|
|
Taith’s independent evaluation: interim report
|
|
An interim evaluation of Taith by social and economic researchers Wavehill has revealed the programme’s strong impact across Wales, particularly among underrepresented groups. The report shows that 44% of participants come from these backgrounds—exceeding the 40% target—highlighting Taith’s focus on accessibility and inclusion. The programme has engaged with 98 countries and is close to reaching its goal of 50 long-term partnerships, with 48 already in place.
Demand for Taith has surpassed expectations, with interest and engagement in international exchange across all sectors in Wales continuing to grow.
Schools have seen first-hand benefits. Staff at Ysgol Pen-y-Bryn called it “one of the best funds” they’ve received, while teachers at Tan-y-Lan Primary highlighted its cultural impact on pupils. The evaluation found that Taith offers good to excellent value for money and is transforming lives across Wales.
|
|
|
Taith Stories
A powerful new youth-led organisation, Our Voice Our Journey (OVOJ), has launched in Wales with a bold and heartfelt mission: to amplify young voices and challenge deep-rooted issues like misogyny, gender-based violence, and inequality. But OVOJ isn’t just another initiative, it’s the result of a life-changing journey that sparked a movement for lasting change.
The idea was born during a Taith-funded exchange with She Is Not Your Rehab, a grassroots movement in New Zealand helping men heal from violence and trauma. In October 2024, eight adults and eight young people from two Welsh youth groups travelled across the world, learning how storytelling, culture, and connection can drive real transformation.
“It was never meant to end there,” said founder Anne-Marie Lawrence. “That journey planted a seed … we knew we had to do more.”
Now a growing force, OVOJ is helping young people reimagine the world around them, giving them the tools, confidence, and courage to rebuild it together.
Watch their video here
|
|
Arrange an online meeting with a member of the Taith team
|
|
|
If you are interested in applying on behalf of your school or organisation for your own Pathway 1 or Pathway 2 project, then please click on this link and fill out your details so we can contact you to arrange a time to meet that’s convenient for you.
|
|
|
|