Google Groups no longer supports new Usenet posts or subscriptions. Historical content remains viewable.
Dismiss

Oes yma gasgliad o englynion?

2 views
Skip to first unread message

Dr D A Jones

unread,
Dec 26, 1997, 3:00:00 AM12/26/97
to

Oes yma gasgliad o englynion?
Byddai yn ddiddorol cael lleoliad i unrhyw un ychwanegu ei hoff englynion

DaviesJL

unread,
Dec 27, 1997, 3:00:00 AM12/27/97
to

In article <883164175.18270.0...@news.demon.co.uk>, "Dr D A
Jones" <daf...@dafydd.demon.co.uk> writes:

>Oes yma gasgliad o englynion?
>Byddai yn ddiddorol cael lleoliad i unrhyw un ychwanegu ei hoff englynion
>

Byddai'n wir. Byddwn yn falch o roi tudalen o'm lle we i amdano. Ond beth
yw'r sefyllfa hawlfraint?

Lynne

Dyma un o'm ffefrynau i (ond rwy wedi anghofio'r awdur - Dafydd, ti'n gwybod,
siw+r o fod)

Pan fo llen uwch ein pennau - a chaddug
Yn gorchuddio'n llwybrau,
Ein lle'n wir yw llawenhau:
Mae haul uwchlaw cymylau.

Dafydd Price Jones

unread,
Dec 28, 1997, 3:00:00 AM12/28/97
to

Gofynnodd y Dr. Dafydd A. Jones:

>>Oes yma gasgliad o englynion?
>>Byddai yn ddiddorol cael lleoliad i unrhyw un ychwanegu ei hoff englynion
>>
Atebodd Lynne:

>Byddai'n wir. Byddwn yn falch o roi tudalen o'm lle we i amdano. Ond beth
>yw'r sefyllfa hawlfraint?

Hyd y gwn i, mae hawlfraint yn bodoli ar bopeth a gyhoeddwyd tan 50
mlynedd ar o+l marw'r awdur. Yn o+l ysbryd y gyfraith, mae'n debyg y
byddai'n iawn i gyhoeddi dau neu dri englyn gan unrhyw awdur (gyda
chydnabyddiaeth, wrth reswm), ond y byddai angen caniatad gan
berchennog y darnau cyn rhoi mwy na hynny ar y We.
OES 'NA DWRNAI YN Y TY+???

Mae 'na ambell i englyn yng nghylchgrawn y We, "Gwefr".
http://ourworld.compuserve.com/homepages/sycharth/

>Dyma un o'm ffefrynau i (ond rwy wedi anghofio'r awdur - Dafydd, ti'n gwybod,
>siw+r o fod)

Roedd rhaid i mi edrych yn y flodeugerdd o ddyfyniadau! R.J. Roberts
(1896-1981) ydy'r awdur. "Hedd a Heulwen Ddaw Eilwaith" ydy'r teitl.


>
>Pan fo llen uwch ein pennau - a chaddug
>Yn gorchuddio'n llwybrau,
>Ein lle'n wir yw llawenhau:
>Mae haul uwchlaw cymylau.

Ie, ie. Mae'n codi'r galon. Ydy hwnne'n haeddu deg, 'dwch?
--
| Dafydd Price Jones
E-bost: dafy...@dafyddpj.demon.co.uk
Dau a hanner am byth!|

Linda K. Sherman

unread,
Jan 5, 1998, 3:00:00 AM1/5/98
to

Geraint Jones wrote:
>
> Dafydd Price Jones <dafy...@dafyddpj.demon.co.uk> ofynnodd:
> ( Hyd y gwn i, mae hawlfraint yn bodoli ar bopeth a gyhoeddwyd tan 50
> ) mlynedd ar o+l marw'r awdur. Yn o+l ysbryd y gyfraith, mae'n debyg y
> ( byddai'n iawn i gyhoeddi dau neu dri englyn gan unrhyw awdur (gyda
> ) chydnabyddiaeth, wrth reswm), ond y byddai angen caniatad gan
> ( berchennog y darnau cyn rhoi mwy na hynny ar y We.
> ) OES 'NA DWRNAI YN Y TY+???
>
> Yn absenoldeb twrnai: mae cyfraith hawlfraint yn gwahardd
> unrhyw ddyblygiad neu gyhoeddiad o fwy na rhyw gyfran bychan
> (10% o bosib) o waith creadigol, ac mae "cerdd gyfan" yn
> waith creadigol ynddi ei hunan, faint pa mor fechan y bo,
> a faint lleied rhan yw o gyfrol y cyhoeddir hi ynddi.
> Felly, yn ol /llythyren/ y ddeddf -- heb caniatad deilyd
> yr hawlfraint -- torcyfraith yw pob gwneud nodyn o englyn
> da mewn ymryson, neu'i hailadrodd yn gyhoeddus dros beint
> neu baned wedyn.
>
> Mae lle i amau bod dysgu cerdd ar gof a chalon yn beryglus
> o agos i fod yn dorcyfraith erbyn hyn, ond fyddai hyd yn
> oed llysoedd Lloegr ddim yn gwahardd hynny, na fasen?
>

Dim twrnai ydw i, ond roeddwn i'n ynghlwm mewn ffrae hawlfraint rai
blynyddoedd yn ol felly dw i'n gwybod tipyn am y pwnc--dim llawer,
cofiwch, dim ond tipyn. Hefyd mae cyfraith hawlfraint U.D. yn dipyn
wahanol mewn rhai manylion i gyfraith Brydeinol a G.E., ond yr un ydy'r
egwyddorion a phrif bwyntiau.

Hyd a gwn i, does dim rheol yngly+n a+ faint o waith creadigol gewch chi
gopio heb ganiatad. Y prawf go iawn ydy sut byddwch chi'n defnyddio'r
copi. Rheol y fawd ydy os byddwch chi'n ennill arian o gopio'r gwaith,
neu os byddwch chi'n amddifadu'r awdur o incwm sy ganddo fo hawl i'w
dderbyn, yna byddwch chi'n torri'r gyfraith. Ac mae 'na'r egwyddor
"defnydd teg" sy'n caniatau dyblygiad mewn adolygiadau ac yn y blaen.
Felly, nid torcyfraith ydy adrodd gwaith dros beint neu mewn Eisteddfod,
neu ddysgu'r gwaith ar gof, cyhyd a+ nad ydych chi'n derbyn tal.

Dyma'r syniad, o leia. Yn y byd go iawn, dydy barnwyr a rheithwyr ddim
yn deall y gyfraith hawlfraint o gwbl, ac mae "ardal lwyd" mawr mawr
mawr rhwng beth ydy "torcyfraith" a beth ydy "defnydd teg". Mae
anghytundeb mawr hyd yn oed yngly+n a+ beth ydy "dyblygiad." Er
enghraifft mae llawer o arbenigwyr cyfreithiol sy'n credu y cafodd
George Harrison y siafft yn achos "My Sweet Lord" oherwydd nad oedd ei
ga+n yn ddigon debyg i'r ga+n arall i fod yn "gopi". Mae hyd yn oed rhai
arbenigwyr sy'n credu bod y gyfraith hawlfraint yn caniatau i chi gopi'r
holl ga+n nod am nod a honni hawlfraint os byddwch chi'n rhoi'ch geiriau
eich hunain ar y miwsig; maen nhw'n dadlau bod y canlyniad yn ddigon
"wreiddiol" i fod yn "waith creadigol" yn hytrach na "dyblygiad". Ond
ceisiwch berswadio rheithgor o hynny!

Ar y pen arall, mae arbenigwyr sy'n honni mai torcyfraith ydy'r
"samples" sy'n cael eu defnyddio mewn "miwsig" rap. Roedd llawer o
achosion yn erbyn perfformwyr a labeli rap ym mlynyddoedd cyntaf rap, ac
yn y rhan fwya penderfynodd y rheithgor ar gyfer yr achwynyddion.

Dydy'r gyfraith ddim yn glir o gwbl ynglyn a+ chyhoeddi copiau o
weithiau ag hawlfraint ar y 'Rwyd. Wrth gwrs mae achosion amlwg, fel
cyhoeddi nofel gyfan ar safle we neu anfon copiau o Air Meicro$offt at
eich ffrindiau. Ond dydy pethau ddim mor glir ynglyn a+ geiriau cerddi a
chaneuon. Dw i'n meddwl y basai hi'n anodd iawn honni bod hyn yn
nidweidio'r awdur.

Yn yr achos y roeddwn i wedi ynghlwm ag ef, roeddwn i wedi ysgrifennu
pedair pennod am lyfr cyfrifiadur, ond dywedodd y cyhoeddwyr wrtho i fe
fydden nhw'n prynu a chyhoeddi dim ond tair o'r penodau. Ond pan oedd y
llyfr yn cael ei gyhoeddi, dyna fy mhedwaredd pennod gyda enw'r prif
olygydd ar ddechrau'r bennod. Roedd llawer o newidiau ac ychwanegiadau,
ond roedd y bennod yn cynnwys y mwyafrif o fy ngheiriau
gwreiddiol yn union fel roeddwn i wedi'u sgrifennu. Roedd achos clir
iawn o le+n-ladrad (wel, lladrad o leia--wn i ddim am y rhan "lle+n"),
ond honnodd y cyhoeddwyr a'r golygydd bod y gwaith yn "ddigon wreiddiol"
a phenderfynnon nhw ymladd yr achos. Doedd dim twrnai a oedd yn fodlon
cymryd achos yn erbyn cwmni mor fawr dros cynlleied o arian felly roedd
rhaid i mi ymchwil y gyfraith ar fy mhen fy hunan. Enillais i'r achos,
ond nid hyn oherwydd fy ngwybodaeth gyfreithiol--methodd twrnai'r
diffynyddion ymddangos yn y llys!

Wedi bod drwy'r llanast 'na, rydw i'n credu bod rhaid fod yn ofalus iawn
am gyhoeddi gweithiau o hawlfraint ar y Rwyd. Efallai bydd hyn yn
gyfreithlon (ac efalla na), ond yn siwr gall hi fod yn ddrud iawn yn
ymladd achos llys.

L.
--
Linda K. Sherman <lins...@concentric.net>
Welsh-related and other stuff to be found at
http://www.concentric.net/~linsherm

0 new messages